Fel hyn
Swn y beat ar bass ar waelod i'n sodlau,
Swn y beat ar bass ar waelod i'n sodlau,
Heb baned i olchi'r mwg i lawr
Gyrru ar y ffordd ar y lôn dwi byth yn llonydd
Mynd ymusg y pobl ar y traffydd ar y lonydd
Mynd i lefydd pell bob tro'n edrych am beth gwell
Dwi'n teimlo mor aflonydd, dwi mor fodlon a'r afonydd
Cant a miliwn enaid yn disgwyl am ryddhâd
Cael digon o soul ag RnB a gormod o ganu gwlad
Dwisio rubadub rock reggae rho fi i mi drwy'r dydd a'r nos
Sna'm byd yn dod yn agos at extra spicy reggae sauce
Ma rubadub yma i aros pob diwrnod or wythnos
Ma rhywbeth newydd yn ymddangos ymusg y grug ar y rhos...
Gad I mi weld ti yn y bore,
Oes na dwll yn dy wely di?
Dydwi ddim wastad ar fy ngorau
Paid cau'r drws arnaf fi
Ti'n hoffi sôn amdan dy hun,
Ble ti 'di bod a lle ti'n ffitio yn y llun,
Hanesion trist y dyddiau ffôl,
Ar creithiau dyfn sy'n dy ddal di yn ôl.
Diffodd y golau, cau y llen, dal i chwifio'r faner wen.
Wrth i ti edrych i fy llygaid i
Wyt ti'n gweld beth o ni pan o ni'n iau
Pan odd o jest nin dau
Paid gadael i'r byd fy niflannu i
Dwi'n dal i gredu fo ni'n rhydd
Paid colli ffydd.
Real Rock Riddim yn rhedeg yn fy ngwaed,
Sefyll ar fy nwylo a menig ar fy nhraed,
Di popeth ddim mor hawdd a botwm dan dy fawd,
Dwi'n meddwl am y pethau bach sy"n poeni pawb.
Rho i mi Reggae Riddim, breuddwydio swn gitar,
Gore'n byd rhoid gorffwys i fy llygaid swar,
Dwi'n methu y mynyddoedd a hiraeth am y môr, ...
Yn y gwynt a'r glaw mân da ni'n picied lawr ir dre,
Ble mae'r pobol bach yn byw, ma na rhywbeth mawr o'i le
Gwrando ar y radio, gyrru, gyrru, gyrru dros y bryn,
Hei bois dwi di dod heb bres, be da ni'n mynd I neud am hyn.